
Dathliadau Gwyl Ddewi, Noddfa Oaker Avenue 2011
Yr oedd y cinio ar ddydd Sadwrn, 26ain Chwefror 2011, a'r gwr gwadd oedd Mr Gwyn A.Evans, F.R.C.S., Croesoswallt.

Cinio Gwyl Dewi, Capel Willow Tree Rd, Altrincham
Dydd Iau, Mawrth 1af, 2012
Cynhelir ein cinio yn festri’r capel am 7.00 gyda bwyd wedi ei baratoi gan ‘The Stables’, Altrincham. Noson lawen i’w dilyn.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mrs Lilian Bury, 0161 498 6118
Dathliadau Gwyl Ddewi, Noddfa Oaker Avenue 2010
Mae cyfeillion Noddfa Oaker Avenue ers llawer blwyddyn wedi dathlu Gwyl ein nawdd sant gyda phryd bwyd wedi ei baratoi gan ferched yr eglwys. Yna bydd y gwr gwadd yn annerch ac yn cynnig y llwnc destun i Dewi Sant. Yn 2010, y gwr gwadd oedd y Dr Haydn Edwards, Llangefni, hen ffrind i ni yma oddi ar ei ddyddiau yn astudio ym Mhrifysgol Salford. Wedi 'galw'r siroedd', cawsom adloniant gan ein sêr lleol.
